I gyd am ddim!
Trwy Sadwrn
Ystafell Nantlle, Safle’r Normal, Bangor LL57 2HQ
Sain i Dŷ Gwag
Llun 21 Mehefin
7pm Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG
Lansio Ŵyl Metamorffosis a’r Llyfr
7:05-8:30pm Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG
The Feel of the House of Usher Gweledigaeth a chyffyrddiad yn Swrrealaeth Svankmajer, Anna Powell
9pm Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG
Mae iaìth ÿn feirws: Amrywiad Chile
Mawrth 22 Mehefin
4-5pm Stryd Fawr Bagnor, dechrau wrth yr Eglwys Cadeiriol
Hag Haf Ha Ha Crone Cast
6-7pm Moelyci, Tregarth LL57 4BB
Busnes Merched Lucy Warren
7-8pm Moelyci, Tregarth LL57 4BB
Busnes Merched Lucy Warren
8-9pm Moelyci, Tregarth LL57 4BB
Busnes Merched Lucy Warren
Mercher 23 Mehefin
6pm Ynys Tysilio, Porthaethwy LL59 5EA
DroBydMicro Emily Meilleur
8:30-10pm Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, LL57 2DG
Tripyl-Bil: Ffilmiau NWK & Perfformiad, Bois NWK
Iau 24 Mehefin
4-5:30pm Y Cloc, Stryd Fawr, Bangor LL57 1PD
DroSaethau Emily Meilleur
6:30-7pm Pontio, Bangor LL57 2TQ
Wedi’i seilio Natasha Dawkes
8-9:30pm Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, LL57 2DG
Hap a Damwain
Gwener 25 Mehefin
2-6pm Old Goods Yard, Porthaethwy LL57 2RQ
Gosod Geocache Bach*
7-8:30pm Pontio, Bangor LL57 2TQ
Hopewell Ink, efo gosodiad ‘Homunculus’
9:30-10:30pm Old Goods Yard, Porthaethwy LL57 2RQ
Clash of the Twang
Sadwrn 26 Mehefin
10-11am Pontio, Bangor LL57 2TQ
Siarad imi - dro artist
Janet Ruth Davies
11-3pm Prosiect Celf Bangor, Canolfan Deiniol, Bangor LL57 1NW
Cerddi Ffridj Enfawr Kathy Hopewell*
11-4pm Old Goods Yard, Porthaethwy LL57 2RQ
Geocache Bach*
11-4pm Old Goods Yard, Porthaethwy LL57 2RQ
Bocs Breuddwydion Wanda Garner*
11:30-1:30pm Old Goods Yard, Porthaethwy LL57 2RQ
Trawsffurfiad
2-4pm Treborth Botanical Garden, Menai Bridge LL57 2RX
Taith efo Afonydd
5pm Pontio, Bangor LL57 2TQ + ar-lein
Y straeon dywedwyd wrtha i ddweud Jo Munton
Sul 27 Mehefin
10-11am Stryd Fawr Bangor,
cyfarfod: Eglwys Gadieiriol
Dro – Gweld trwy ffotograffiaeth
Janet Ruth Davies
11-4pm Old Goods Yard, Menai Bridge, LL57 2RQ
Geocache Bach*
11-3pm Old Goods Yard, Menai Bridge, LL57 2RQ
Box of Dreams Wanda Garner*
11-1pm Old Goods Yard, Menai Bridge LL57 2RQ
Trawsffurfiad
1.30-3pm Nantlle Room, Normal Campus, Bangor LL57 2HQ
Blackout Fiona Cameron
3:30pm Treborth Botanical Garden, Menai Bridge LL57 2RX
Metamorffosis, Revolution and
Botanical Time Zoë Skoulding
4:30-5:30pm Treborth Botanical Garden, Menai Bridge LL57 2RX
Symudiad Metamorffosis!
6:30-7pm Bryn Celli Ddu, Llanddaniel Fab, Ynys Môn LL61 6EQ
Bacchanates y Farclodiad
Llen a barddoniaeth
Lansio llyfr
Ar y cyd efo Iawn Cymru rydan ni'n dathlu lansiad llyfr i ddysgwyr Cymraeg. Mae stori glasurol Kafka Metmorffosis wedi 'miwteitio' i fersiwn-hawdd-i-ddarllen yn Gymraeg.
Siawns i gael gwybod am beth sy'n digwydd i Gregor Samsa a gwella dy Gymraeg!
Ffordd berffaith i ddechrau'r ŵyl!
7pm Llun 21 Mehefin
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG
Mae iaìth ÿn feirws: Amrywiad Chile
Mae iaith yn feirws sy ddim yn parchu ffiniau! Mae'r digwyddiad yn cyflwyno perfformiadau barddoniaeth sain a gweledol ar fideo gan feirdd o Chili a pherfformwyr sy'n creu amrywiaethau unigryw rhwng ieithoedd, diwylliannau a mathau o gelfyddydau. Gyda Felipe Cussen, Martín Bakero, Anamaría Briede, Martín Gubbins a Pía Sommer, cyflwynwyd gan Zoë Skoulding.
9pm Llun 21 Mehefin
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG
Blackout Bach - Gweithdy barddoniaeth a pherfformiad
Bydd y gweithdy yn dy wahodd i wneud gwasanaethau bach ac ymyriadau ysgrifenedig ar lefel personol ac ar lefel llinell trwy natur drawsnewidiol barddoniaeth blacowt.
Rydan ni'n creu ymatebion barddonol positif i'n byd trafferthus wedi'u codi o destun gwreiddiol yr holl newyddion drwg dyddiol.
Bydd y pawb yn creu cerddi o'r newydd a chael cyfle i ddarllen eu gwaith i'r grŵp mewn perfformiad diwedd sesiwn.
Bydd y sesiwn yn cael ei ddilyn gan darlleniad o She May Be Radon gan Fiona Cameron, gan ganolbwyntio ar rhai o'r themau eco-farddonol sydd yn y casgliad.
1.30-3pm Sul 27 Mehefin
Nantlle Room, Normal Campus, Bangor LL57 2HQ
Barddoniaeth Ffridj Enfawr
Yn y digwyddiad yma, sydd ar agor i bawb, rydan ni'n cymryd barddoniaeth fagnetig ffridj i'r lefel newydd. Bydden ni'n dy yrru rownd Stryd Fawr i ffeindio geiriau yn y byd go-iawn ac wedyn dod â nhw i mewn i'w metamorffosisio i farddoniaeth.
11-3pm Sadwrn 26 Mehefin
Prosiect Celf Bangor, Canolfan Deiniol, Bangor LL57 1NW
Droau Metamorffosis
Dro Byd-Micro
Taith gerdded ddwysedig dan arweiniad dilynwyr y pethau lleiaf i mewn i’r coed (Cyrnol Coed, Porthaethwy). Siawns i weld y bydoedd micro mwsoglau ac eitemau bach eraill (darnau o greigiau a chrisialau, pridd) ac i glywed straeon am anifeiliaid microsgopig (tardigrades ac eraill), gan ddefnyddio synhwyraidd sain (efo stethosgopau o bosibl). Bydd y digwyddiad yn cynnig cysylltiad ystyriol â phethau lleiaf y byd naturiol a chyfle i ymgolli mewn manylder mân.
Bydd y daith yn para hyd at awr. Darperir lensys llaw a chwyddseinyddion. Croeso i bawb.
Mae'r digwyddiad wedi'i gyfyngu i 30 o bobl sy'n 18 oed neu'n hŷn.
6pm Mercher 23 Mehefin
Cyfarfod wrth giât Ynys Tysilio, Porthaethwy LL59 5EA
Dro Saethau
Bydd y daith gerdded hon, dan arweiniad yr artist Emily Meilleur, ac yn seiliedig ar seicoograffeg, yn dilyn y saethau ar strydoedd tref Bangor a'r cyffiniau.
Mae saethau yn arwyddion sydd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn lleoedd cyhoeddus a phreifat. Ymunwch â ni i edrych ar saethau hen a newydd, ac ystyried eu cyfeiriad, symbolaeth a phwrpas: fel awgrymiadau cyfeiriad neu arfau. Gan nodi cyfeiriad y saethau gyda chwmpawdau, byddwn yn tynnu lluniau ohonyn nhw ac o bosibl yn gwneud recordiadau yn eu lleoliadau. Bydd gynnon ni glipfyrddau i wneud nodiadau a lluniadau wrth i ni fynd.
Bydd y daith yn para am hyd at awr ac mae croeso i bawb. Offer ar gael ar y diwrnod.
Mae'r digwyddiad wedi'i gyfyngu i 30 o bobl sy'n 18 oed neu'n hŷn.
4-5:30pmIau 24 Mehefin
Cyfarfod wrth y Cloc, Stryd Fawr, Bangor LL57 1PD
Metamorffosis, Chwyldro ac Amser Botaneg: Cerdded Barddoniaeth
Mae’r bardd Zoë Skoulding yn dy wahodd i ymuno â hi ar daith gerdded efo Calendr Chwyldroadol Ffrainc, lle disodlwyd dyddiau seintiau gan enwau planhigion, anifeiliaid ac offer amaethyddol. Darganfod fwy am hanes y calendr a rhai o'r planhigion ynddo, gwrando ar rai cerddi a darganfod metamorffosis fel chwyldro.
Mae'r digwyddiad wedi'i gyfyngu i 30 o bobl sy'n 18 oed neu'n hŷn.
3:30pm Sul 27 Mehefin
Treborth Botanical Garden, Menai Bridge LL57 2RX
Cerddoriaeth, Seiniau, Sŵn
Hopewell Ink
Band geiriau llafar a cherddoriaeth o Bethesda ydy Hopewell Ink.
Ar gyfer y perfformiad hwn efallai y byddwn yn metamorffosio ein geiriau ac yn swnio i mewn i Geifr Cyprus, Aderyn Du Hardd, neu rai Dynion Addfwyn. Efallai y byddwn yn anelu at ddarparu'r Gwellhad am ddistawrwydd neu deithio gyda'n gilydd i Niwbwrch ac yn gorffen ar goll ar y môr.
Wrth gyflwyno Cerddi Zen rydan ni’n gobeithio perswadio ein gwrandawyr i beidio â chael Calon Galed ond i fwynhau ein darnau,ysgrifennwyd gan Kathy Hopewell ac sydd wedi'u plethu ynghyd efo cerddoriaeth gitâr a harmoniwm, rhythm drwm, sŵn electronig gan David Hopewell.
7-8:30pm Gwener 25 Mehefin
Pontio, Bangor LL57 2TQ
Homunculus
Ymunwch â ni am brofiad synaesthetig unigryw o Homunculus, ar ddiwedd y sbectrwm electroacousig cerddorol gan yr artist Ed Wright.
Mae o’n disgrifio ei Homunculus fel "drych clywedol i gymdeithas pobol a'r byd". Ond mae'n fwy na hynny, gan ei fod yn troi allan i fod yn ddrych stori dylwyth teg...
7-8pm Gwener 25 Mehefin
Pontio, Bangor LL57 2TQ
Sain i Dŷ Gwag
Mae Soundlands a Phrosiectau Plas Bodfa yn cylwyno.
Ffrwd byw 24 awr o seiniau wedi eu creu gydag ac o Plas Bodfa, Ynys Môn gyda 24 o artistiaid sain, pobol greadigol a grwpiau o Gymru
Dydd Sadwrn, 26 Mehefin
yn ddechrau ar godiad haul (05:00)
yn fyw am 24 awr tan
Dydd Sul, 27 Mehefin
yn gorffen ar godiad haul (05:00)
Bydd seiniau sy'n cael eu creu gan y tŷ ei hun a'r ardal gyfagos yn cael eu cymysgu'n fyw, eu hestyn a'u trin.
Gallet ti chwarae'r ffrwd am unrhyw ran o'r diwrnod ti eisiau, neu groeso iti ddod i’r gwagle sydd yn Gampws y Coleg Normal, Ystafell Gynhadledd. Byddwn yn chwarae'r ffrwd yno, er mwyn iti gysylltu â thŷ gwag, mewn safle gwag a sŵn y tŷ gwag.
Hap a Damwain
Baledi ynysu arbrofol o'r arfordir. Treuliodd y flwyddyn ddiwethaf yn gwneud hwiangerddi cloi trwy Zoom. Dyma eu sioe fyw gyntaf.
8-9:30pm Iau 24 Mehefin
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, LL57 2DG
Clash of the Twang
Eneidiau rhydd mewn byd stiff, grooves heriol a tiwns moethus i gael dy galon a thraed ar dân. Tyrd i gwandio ar River Man's Songs a Let Yourself Go, Let Yourself Go...
9:30-10:30pm Gwener 25 Mehefin
Old Goods Yard, Porthaethwy LL57 2RQ
Dawns a Symud
Wedi'i seilio
Mae dawnswraig Natasha Dawkes a’r actores Bethan Rose Young yn cyfuno dawns ar gyfer ffilm â llais, yn ogystal â pherfformiad dawns byw. Gan ganolbwyntio ar yr ail-gysylltiad rydan ni wedi cael efo natur oherwydd y cyfnod clo – sy wedi rhoi ini'r amser i stopio, anadlu a myfyrio. Rydan ni wedi darganfod bod y cysylltiad efo natur ydy beth sy'n ein cysylltu efo ein seiliau bywyd, y ffordd rydan ni’n edrych ar ein bywydau ac o ganlyniad yn ffurfio ein perthnasau efo bodau dynol eraill. Rydan ni’n gwahodd sgwrs am y beth mae bodau dynol hefyd yn ei wneud i'r natur rydan yn byw ynddi, yn arbennig mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd
6:30-7pm Iau 24 Mehefin
Pontio, Bangor LL57 2TQ
Symudiad metamorffosis!
Un o'r prif ffyrdd y mae pandemig Covid wedi cael effaith gadarnhaol ar y byd, yw creu amser i lawer fynd tu mewn, cysylltu â bydoedd mewnol personol a blaenoriaethu amser gyda chysylltiadau penodol a chynyddu amser ym myd natur. Ar yr un pryd, mae llawer wedi sylweddoli ei fod wedi creu effaith ddwys ar y celfyddydau, yn nhermau gweledol a pherfformiadau byw.
Gan ddefnyddio pŵer sydd tu ôl i Metamorffosis, byddwn yn edrych yn ddyfnach i'r themâu hyn, gan feddalu’r llinellau a'r ymylon rhwng ein natur agos a'n natur gynhenid wyllt. Trwy symud a sŵn byrfyfyr go-iawn, bydd criw ohonon ni – bodau dynol gwyllt yn rhannu rhai eiliadau yn gyhoeddus mewn amser gan adlewyrchu ar sut mae natur yn edrych, sut mae i gyd-fyw ym myd natur, a sut mae natur yn cyfathrebu trwyddyn nhw pan mae eisiau.
4:30-5:30pm Sul 27 Mehefin
Treborth Botanical Garden, Menai Bridge LL57 2RX
‘Busnes Merched’
Dyma awr o ffilm a hud. Mae'r artist yn defnyddio'r profiad o seremoni hunan-wneud i edrych ar y rhyngweithio rhwng profiad creadigol a newid. Yn y digwyddiad, mae’r gwyliwr yn cael eu gwahodd i greu ei brofiad metamorffig ei hun a thrafod y pŵer y tu ôl i ddelweddu, cynrychiolaeth, a'r hunan. Mae'r ffilm yn dangos noethni benywaidd ac mae’r seremoni wedi’i greu i gynnwys merched. Rwyf wedi penderfynu peidio cau'r digwyddiad i ddynion, ond . . .
Gan Lucy Warren
6-7pm & 7-8pm & 8-9pm Mawrth 22 Mehefin
Moelyci, Tregarth LL57 4BB
Perfformio
Hag Haf Ha Ha
Yn 2020 dechreuodd Crone Cast dad-diriogaethu’r amgylchedd naturiol ac wedi’i adeiladu rhwng Bangor a Phorthaethwy. Wnaethon ni hyn mewn steil profoclyd o gyd-weithrediad gwyllt, efo merched canol oed yn dod yn elfennau heb-ddynol
Eleni mae Crone Cast yn parhau â'i ymgais anweddus am drawsnewid trwy chwilio am y bylchau rhwng llefydd - yr ardaloedd lliniarol, y ffiniau rhwng y dynol ac arallrwydd, uwchben ac o dan y croen. Ymuno â ni * mewn dyfodol dychmygol, mewn perfformiad mewn llefydd heb eu darganfod eto o amgylch canol dref Bangor.
* Crones sy'n dymuno cymryd rhan, dewch â'ch gwisg sydd wedi'i bellhau'n gymdeithasol [email protected] ar gyfer y côd gwisg.
4-5pm Mawrth 22 Mehefin
Stryd Fawr Bagnor, dechrau wrth yr Eglwys Cadeiriol
Bacchanates y Farclodiad
Gan fenthyca o chwedl Orffiws a gafodd ei ben wedi’i dorri i ffwrdd gan Bacchanates yn Delffi ac yn cynrychioli defod y gwanwyn, defod baganaidd Roegaidd.
Hefyd yn atodi tebygrwydd syncretig gan gymryd o chwedl torri pen Bendigeudfran o ail gainc y Mabinogi rydan ni'n cyflwyno Lleidigeudfran sydd yn mynd i adrodd ei gerdd, (ac yn debyg i Macbeth) dod ar draws y Bacchanates, cael ei ben wedi'i rwygo fel y bydd yn cael ei gario trwy orymdaith wyllt hyd at y siambr gladdu ac wedyn yn cael ei roi ar blinth.
Mae'r pen yn cael ei ail-animeiddio ac yna'n parhau ar ei daith tra bod y Bacchanates yn parhau â’i sothach. Bydd y Bacchanates yn cael eu gwisgo fel ymgnawdoliadau amrywiol o wrach Hecate, Shakesperaidd, Pagan, Gwyn, Du.
* Dim ond yn addas ar gyfer plant dros 12 oed.
6:30-7pm Sul 27 Mehefin
Bryn Celli Ddu, Llanddaniel Fab, Ynys Môn LL61 6EQ
Y straeon dywedwyd wrtha i ddweud
Mae "Y straeon dywedwyd wrtha i ddweud" yn sioe bypedau grymus am straeon sydd wedi'u rhoi imi, gan hen ddynes siamen, wnes i gyfarfod yn Siberia. Mae'r sioe wedi'i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein ac wedi'i chefnogi gan Moving Parts - Gŵyl Bypedau Newcastle
Yn addas ar gyfer pob oedran.
5pm Sadwrn 26 Mehefin
Pontio, Bangor LL57 2TQ + ar-lein
Perfformiad gan yr NWK-Bouyz
Helpia ni ddatrys dirgelwch cyfres o droseddau sy wedi digwydd yn erbyn celf yn ddiweddar. Mae ein ditectifs yn ddi-gliw ac mae angen iti roi diwedd ar y troseddau erchyll rydan ni i wedi'u gweld dros y flwyddyn ddiwethaf.
15 mun.
8:30-10pm Mercher 23 Mehefin
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, LL57 2DG
Croesi drosodd
Geocache
"Mae byd arall nid yn unig yn bosibl, mae hi ar ei ffordd. Ar ddiwrnod tawel, gallai ei glywed yn anadlu ”- Arundhati Roy.
Ffeindio ac adeiladu dy Utopia Bach dy hun - byd o bosibiliadau a dychymyg bach - mewn craciau a chorneli dystopaidd yn TOGYG a'r cyffiniau: ffeindio negeseuon o'r dyfodol ac ailfeddwl am dy gysylltiadau wrth lywio dy ffordd trwy eithafion heb eu gafael, graddfeydd a bodau: nid i goncro'r byd ond agor posibiliadau metamorffig eraill.
2-6pm Gwener 25 Mehefin (Gosod)
11-4pm Sadwrn 26 Mehefin
11-4pm Sul 27 Mehefin
Old Goods Yard, Porthaethwy LL57 2RQ
The Feel of the House of Usher
Gweledigaeth a chyffyrddiad yn Swrrealaeth Svankmajer. Ffilmiau a siarad.
Pam mae'r synhwyrau'n gyfyngedig i bump, dan arweiniad golwg ? Ydy gweledigaeth a sain yn gallu creu teimladau cyffyrddol trwy fetamorffosis? Ydy gyffwrdd yn gallu cynhyrchu meddyliau yn ogystal â theimladau? Ydy “gweld” yn air iawn am ein cyfarfyddiad â ffilmiau swrrealaidd Svankmajers ’? Oes gwyliwr sefydlog, canolog yn bodoli mewn gwirionedd?
I edrych ar y cwestiynau yma, datblygodd Eva a Jan Svankmajer ‘Tactilism’ mewn ymarfer a theori. Ym Prâg yn y 1970au, cafodd eu gwaith eu sensro - felly wnaethon nhw ffilmiau, arbrofodd eu gweithdai â'r dychymyg cyffyrddol, ‘Llaw ydw i, offeryn [...] yn lle ewinedd mae gen i dafodau bach bach, miniog, melys dwi’n defnyddio i lyfu'r byd' (Jan Svankmajer).
7:05-8:30pm Llun 21 Mehefin
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG
Gwaithdy Trawsffurfiad –
Shape Shifting Workshop
Cael gwared â dy gyfyngiadau dynol trwy deithio i fyd cyfochrog, gan symud i fodolaeth fwy-na-dynol ar y ffordd (anifail, llysiau neu fwynau neu hybridau ohono) i geisio gweld i mewn a chael cyngor cydwybodol ar gyfer ein hunain. Byddwn yn dychwelyd efo anrhegion i greu cipolwg bach - Utopias Bach - sydd yn dod â byd arall ychydig yn agosach.
Gweithdy 'delweddu tywysedig' fydd hwn (un yn y Gymraeg, un yn Saesneg), gydag opsiwn i greu rhywbeth i'w ychwanegu at GEOCACHE BACH).
Rydym hefyd yn gobeithio gwneud rhai recordiadau, i ti fynd ar y daith fel ti eisiau.
11-1:30pm Sadwrn 26 Mehefin
11-1pm Sul 27 Mehefin
Old Goods Yard, Porthaethwy LL57 2RQ
Content from Youtube can't be displayed due to your current cookie settings. To show this content, please click "Consent & Show" to confirm that necessary data will be transferred to Youtube to enable this service. Further information can be found in our Privacy Policy. Changed your mind? You can revoke your consent at any time via your cookie settings.
Taith efo Afonydd
Mae Ioanna Daphne Giannouatlou a Stephanie Januchowski yn dod â’r Daith i ti! Ymuna â ni yn yr awyr agored am ddwy awr lle rydyn ni'n Dychmygu, Ysgrifennu, Creu, Gwisgo i fyny a Byrfyfyrio am ein hafonydd!
Mae'r digwyddiad wedi'i gyfyngu i 30 o bobl sy'n 18 oed neu'n hŷn.
2-4pm Sadwrn 26 Mehefin
Treborth Botanical Garden, Menai Bridge LL57 2RX
Ffilmiau
Masc Mam
Melodrama teulu yng Nghymru yn 2020. Canol-Covid, Ôl-Brexit. Cynllwyn, afiechyd, marwolaeth ac uchelgais, addoliad, cariad a natur.
Mae'r cynhyrchiad rhyfeddol NWK yn cynnig ergydion sinematig o'r golygfeydd harddaf sydd yng Ngogledd Cymru. Llun gwirioneddol deimladwy gyda chyfeiriadau at fynegiant, Douglas Sirk, Veit Harlan a Christoph Schlingensief.Ti ddim ddim eisiau colli hwn!
Efo sgôr wreiddiol gan Alan Holmes.
8:30-10pm Mercher 23 Mehefin
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, LL57 2DG
Y Dyn yn y Lifft
Mae gweithiwr ar y ffordd at ei fos yn y lifft, y mae o yn ei alw'n "rhif un". Mae'r daith o'r gwaelod i'r brig yn troi allan i fod yn daith arswyd, gan fod y gweithiwr eisiau bod ar amser ond heb wybod rhif iawn y llawr. Mae amser allan o le, mae cyflymder y lifft yn dod yn annibynnol. Mae'r testun hwn gan ddramodydd Dwyrain yr Almaen Heiner Müller o 1979 yn siarad yn rhyfeddol i Gymru yn 2021.
Yn 2020, fe sbardunodd archwiliad o ‘rité de passages’ yn ystod adeg y clo yng Nghymru, Bolivia a Mexico ac arweiniodd at y cynhyrchiad ffilm NWK hwn, efo Alan Holmes, Huw Jones a Helga Mellneritsch.
Sgôr wreiddiol gan fardd Mecsicanaidd a'r cerddor jazz Luis David Palacios.
25 mun.
8:30-10pm Mercher 23 Mehefin
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, LL57 2DG
Oriel mewn bocs
Mae'r bocs oriel y breuddwydion yn cynnig ateb delfrydol i bobol brysur neu'r rhai sydd heb lot o le. Agor y bocs a mynd i mewn i fyd breuddwydiol dychymyg rhyfedd.
11-4pm Sadwrn 26 Mehefin
11-3pm Sul 27 Mehefin
Old Goods Yard, Porthaethwy LL57 2RQ
Yn cuddio mewn golwg
Mae Cuddio mewn Golwg yn gyfres o ffotograffau analog a ysbrydolwyd i ddechrau gan Charles Darwin a groesodd dirwedd gogledd Cymru ym 1831 i chwilio am dystiolaeth ddaearegol i brofi bod Oes yr Iâ wedi cerfio'r tirweddau mynyddig serth. Ffeindiodd grŵp o Gerrig anghyson sydd bellach yn cael eu galw yn 'Darwin’s Boulders'. Maen nhw’n cymryd eu henw o’r Lladin ‘Errare’ sy’n golygu 'crwydro’ ac mae’n debyg eu bod wedi mudo cannoedd o gilometrau o’u cartref gwreiddiol. Maen nhw'n gallu cael eu hystyried fel metaffor am sut y mae'r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo'n gallu amharu ar ddiwylliant, ei ddadleoli a'i symud. Mae Cuddio mewn Golwg yn cyffwrdd ar y berthynas ganfyddiadol rhwng y wleidyddiaeth anweledig a gweladwy, a gwleidyddiaeth ddiwylliannol o gael ei gweld a'i gweld.
Mae Erratig Cuddio mewn Golwg wedi mudo i amrywiol leoliadau awyr agored yn Ninas Bangor a Phorthaethwy. Wedi'u hail-fframio ar gyfer Gŵyl Metamorffosis gyda'r ysgogiad “Siarad imi” Rwy'n dy wahodd i ail-ddarganfod y cerrig Erratic ac adrodd dy stori trwy ysgrifennu ac anfon cerdyn post.
Bydd cardiau ‘Siarad imi’ ar gael yn lleoliadau Gŵyl Metamorffosis.
‘Siarad imi’ Dro Arts, Sadwrn 26 – Pontio, Bangor LL57 2TQ
a Sul 27 Gorffennaf am 10.00am
Cyfarfod wrth Eglwys Cadeiriol Bangor.
Pob hawl wedi'u cadw - Janet Ruth Davies.
The Metamorffosis Festival
is kindly supported by the Arts and Humanities Arts Council (AHRC).